(If you would prefer to read this in English, click here )
Mae Cyngor Caerdydd am greu Caerdydd mwy ‘cerddediadwy’. Mae ThinkARK yn gweithio gyda’r Cyngor i geisio deall y problemau mae pobl yn wynebu wrth gerdded yn ei chymdogaeth. Er enghraifft, pa rwystrau maent yn wynebu neu pa fath o brofiadau ydyn nhw wedi cael.
O’r 7fed, 8fed, 9fed a’r 10fed o fis Awst byddwn yn ymgynghori gyda phobl yn nwyrain a gorllewin Caerdydd ynglŷn â’r pethau maent yn hoffi a ddim yn hoffi wrth gerdded yn ei gymdogaeth. Dyma’r prif leoliadau ac amserau’r ymgynghoriad, ond byddwn hefyd yn cerdded rhwng y lleoliadau er mwyn siarad gyda nifer ehangach o bobl.
7fed - Tu fas i Swyddfa’r Post Trelái ar ‘Grand Avenue’ 9yb hyd at 2yp
Tu fas i siopau ‘Countisbury Avenue’ 3yp hyd at 5:30yp
8fed - Tu fas i siopau ‘Countisbury Avenue’ 9yb hyd at 11:30yb
Tu fas i feddygfa Westway ar Heol Wilson 12:30yp hyd at 3yp
Tu fas i Swyddfa’r Post ar ‘Grand Avenue’ 3:15yp hyd at 5yp
9fed - Tu fas i siopau ‘Bishopston Rd’ 9yb hyd at 1yp
Tu fas i Lyfrgell Llaneirwg 2yp hyd at 5yp
10fed - Tu fas i siopau ‘Countisbury Avenue’ 9yb hyd at 2yp
Parc Trelái / Ffordd Colin 12:30yp hyd at 5yp
Mae’r mapiau yma yn dangos ardaloedd yr ymgynghoriad - cliciwch ar gyfer fersiynau mwy
Os ydych chi allan yn crwydro’ch milltir sgwâr, cadwch lygad mas ar gyfer ein baneri a dewch i ddweud helo.
Mae diddordeb gennym i glywed barn trigolion eraill Caerdydd. Medrwch rannu’ch barn trwy gwblhau’r arolwg isod. Edrychwn ymlaen at glywed gennych!
Os na fedrwch weld yr arolwg isod, sgroliwch i lawr i’r adran sylwadau ar ddiwedd y dudalen lle gewch chi’r opsiwn i ymateb i’r ymgynghoriad yn uniongyrchol.
Why not come along to our meeting on Wednesday evenings and see how you can get involved! Click here to view our calendar.
E-bostwch eich atebion i walking@thinkark.co.uk
Hoffwn glywed gennych am faterion sbesiffig yr ydych yn teimlo bod angen mynd i'r afael arno er mwyn gwella cerdded yng Nghaerdydd
*Hanfodol
Beth yw eich enw?
Beth yw eich côd-post? *
Ydy’ch cymdogaeth yn lle da i gerdded? *
- Ydi
- Nac ydi
- Ddim yn siŵr
Os ateboch chi ‘ydi’ neu ‘nac ydi’ i’r cwestiwn uchod, allech chi esbonio eich ymateb? *
Pa rai o’r opsiynau isod ydych chi yn ystyried yn bwysig i gymdogaeth ‘cerddediadwy’? *
- Arwyddion a chyfeiriadau gwell
- Llai o beryglon baglu (e.e. palmentydd peryglus)
- Lleihau traffig a chyflymder traffig
- Goleuadau gwell
- Diogelwch rhag troseddau
- Mynediad i bobl anabl
- Strydoedd glân a deniadol
- Mwy o lefydd i eistedd
- Arall:
Er mwyn gwella cerdded o fewn eich cymdogaeth, beth fyddai’r newid mwyaf pwysig y dymunwch weld?
- Disgrifiwch y broblem *
- Ble mae’r broblem? (Enw’r stryd) *
- Sut ydych yn meddwl gall y broblem cael ei ddatrys? *
A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ar y mater?